Pan oeddwn i'n tyfu fyny, oni'n byw ar ochr Clawdd Offa. Yn llythrennol. Oedd y tŷ ar ochr Lloegr a'r caeau (fy hoff le) ynh Nghymru. Bob tro oni'n mynd allan o'r tŷ, neu dod adre, dyna oedd e, o flaen I, ac yn gefn o fy meddwl I, oedd y stori o'r pam cafodd y clawdd eu hadeiladu; er mwyn cadw fi allan o Loegr! A'r gosb am fentro i'r ochr arall - colli llaw. Wrth gwrs, roeddwn yn ymwybodol nad oedd yn dal i ddigwydd, ond roedd wedi digwydd i eraill, ac roedd hynny'n ddigon! Ar wahân â Mam, Dad a ni y plant, roedd fy Nain a Thaid hefyd yn byw gyda ni. Oedd Nain wedi dod o Aberfan, rownd y cornel o'r trychineb a cafodd hyn effaith mawr ar fy nhad. Treuliodd lawer o amser yno i fynd i weld ei Nain, felly roedd ychydig yn rhy agos at adref. Roedd Taid, neu Grandad fel oedden ni i gyd yn galw o, yn Gymro Cymraeg o ardal Llanfair Caereinion. Roedd y fferm deuluol wedi cael ei boddi er mwyn creu Llyn Clywedog. Penderfynodd o i siarad Saesneg yn unig ...