Skip to main content

Symud ymlaen

 Pan oeddwn i'n tyfu fyny, oni'n byw ar ochr Clawdd Offa. Yn llythrennol. Oedd y tŷ ar ochr Lloegr a'r caeau (fy hoff le) ynh Nghymru. Bob tro oni'n mynd allan o'r tŷ, neu dod adre, dyna oedd e, o flaen I, ac yn gefn o fy meddwl I, oedd y stori o'r pam cafodd y clawdd eu hadeiladu; er mwyn cadw fi allan o Loegr! A'r gosb am fentro i'r ochr arall - colli llaw. Wrth gwrs, roeddwn yn ymwybodol nad oedd yn dal i ddigwydd, ond roedd wedi digwydd i eraill, ac roedd hynny'n ddigon!

Ar wahân â Mam, Dad a ni y plant, roedd fy Nain a Thaid hefyd yn byw gyda ni. Oedd Nain wedi dod o Aberfan, rownd y cornel o'r trychineb a cafodd hyn effaith mawr ar fy nhad. Treuliodd lawer o amser yno i fynd i weld ei Nain, felly roedd ychydig yn rhy agos at adref.

Roedd Taid, neu Grandad fel oedden ni i gyd yn galw o, yn Gymro Cymraeg o ardal Llanfair Caereinion. Roedd y fferm deuluol wedi cael ei boddi er mwyn creu Llyn Clywedog. Penderfynodd o i siarad Saesneg yn unig i'r plant, mewn gobaith fasa hyn yn llai o boen Iddyn nhw, nag profiad fo yn yr ysgol. Roedd yn difaru'r penderfyniad hwn yn ddiweddarach mewn bywyd ond oedd o yn cael llawer o hwyl yn siarad efo ei merch-yng-nghyfraith (Fy Mam) yn Gymraeg. Er oedd hi'n Saesneg, oedd hi wedi cael ei magu yn Llansannan ag yn rhugl yn Gymraeg. Fel plentyn oni yn llwgu i fedru deall mwy nag "nos da cariad, amser gwely.". Ond oedd rhaid i fi ddisgwyl tan symud i Gaernarfon I rili dysgu!

Blwyddyn diwethaf, wnes i glywed "no more ruminating". Oni ddim yn rili deall yn union beth oedd y gair "ruminating" yn golygu, felly roedd o yn amlwg dim yn syniad fy hun!

Ruminate

1: to go over in the mind repeatedly and often casually or slowly

2: to chew repeatedly for an extended period

Wedyn, roedd pethau mynd trwy fy meddwl un ar y tro; Clawdd Offa, y llyn, rhywun yn yr ysgol gynradd yn bod yn gas achos o'n i'n Gymraes, fi'n trio sgwennu yn Gymraeg a'r boen o gofio, nid dyna fy mamiaith. Y tristwch pryd mae pobl dal yn holi os dwi'n dysgwyr ar ôl bron 30 mlynedd.

"No more ruminating!"

Nid oeddwn yn ymwybodol pa mor ddwfn oedd y boen a'r tristwch ynof.

"No more ruminating!"

Ond nid yw hyn yn deg! Beth am yr anghyfiawnderau? Ydw i i fod i smalio na wnaethon nhw ddigwydd?

Clywais Dduw yn gofyn i mi "Have you seen what I've redeemed for you?" Eto, welais i luniau o hen atgofion, ond tro 'ma, rhai hapus. Mynd am bicnics pob blwyddyn rownd Clywedog. Gwerthu hufen iâ a diodydd i'r cerddwyr Clawdd Offa - digon i fynd i ni ar wyliau.

Treulio oriau yn chwarae ar y clawdd; hide and seek, sledio, adeiladu dens a pob math o hwyl, tan oedd boliau ni yn dweud oedd o'n amser bwyd. Mae gen i lawer iawn o atgofion melys yno. Hefyd welais fy hun yn siarad Cymraeg efo plant fy hun rŵan.

"See what I redeemed for you!"

Tan hyn, nid oeddwn erioed wedi gweld y rhain fel pethau a brynwyd. Dw i wedi bod yn edrych yn y ffordd anghywir! Yn edrych ar y bendithion, ac yna'n teimlo pigiad "ond beth am yr hyn dw i wedi'i golli?"

O'r safbwynt newydd, rwy'n dal i allu gweld y golled, ond yna'r prynedigaeth! Am wahaniaeth.

Yn lle tristwch, anobaith a chwerwder, rŵan fedra'i weld yr un pethau, ond efo llawenydd a mawl. Ma'na bywyd!

Dros y misoedd diwethaf mae'r Ysbryd Glan wedi dangos belefydd eraill yn fy mywyd lle dwi'n gwario gormod o amser myfyrio (neu gael sgyrsiau!) sydd yn mynd nunlle! Fel mynd rownd yr anialwch yn gylchau.

A dwi'n weld y dewis. Ydw’i mynd i aros yn y lle yna, yn cnoi cil ar beth sydd wedi cael ei dwyn, neu ydw i am edrych ar waith yr Arglwydd yn fy mywyd i? Dydw’i ddim isio bod yn parlysu fel gwraig Lot felly dwi'n dysgu "cymryd pob meddwl yn garcharor", yn hytrach na nhw'n creu carchar i fi. Dydi o ddim yn hawdd - old habits die hard. Bu farw taid cyn i mi ddysgu Cymraeg, felly ni welodd yr adferiad ac mae'n debyg y bydd llawer o bethau na welaf yn fy oes, ond rwy'n dewis ymddiried yn Nuw fel y barnwr sy'n cyfiawnhau, yn adfer ac yn talu yn ôl, saith gwaith, am yr hyn a gafodd ei ddwyn gan y gelyn, boed hynny ar lefel bersonol, cenhedlaeth neu genedlaethol. Felly, dyma’r gair dwi'n clywed gan yr Arglwydd, yn Saesneg, fel mae’r Ysbryd Glan yn siarad efo fi:- Wales, it is time to stop your ruminating. The path of always looking backwards will never lead you forward into what I have in store for you. It is time to make peace with what has been. I have seen your pain, grief and loss, but have you seen what I have done? The enemy comes to steal, destroy and kill. Will you continue to worship his work? I come to give you life in the fullest. Will you live it? Have you looked at what I have redeemed and continue to redeem in this land? The castles that once oppressed you, now prosper you. They are yours, to be a blessing to you and the generations. Bring your pain to me and allow me to settle it in your heart so you are able to look forward. Rejoice in what you have and what I have done. See what I am doing now and rejoice. Rejoice and see the new gates of blessing that open. Lift your voices in the triumphant sound of praise for you are no longer captives but free men. See your chains disappear as you lift your eyes and voices to Me, and My Kingdom will be established. Release your songs of praise.


Salm 100 Gwaeddwch yn uchel iʼr ARGLWYDD holl bobl y byd!

Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen; a dod oʼi flaen gan ddathlu!

Cyffeswch maiʼr ARGLWYDD sydd Dduw; fe ydyʼr un aʼn gwnaeth ni, a ni ydy ei bobl e –y defaid maeʼn gofalu amdanyn nhw.

Ewch drwyʼr giatiau gan ddiolch iddo, ac i mewn iʼw deml yn ei foli! Rhowch ddiolch iddo! A bendithioʼi enw! Achos maeʼr ARGLWYDD mor dda!

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd; ac maeʼn aros yn ffyddlon o un genhedlaeth iʼr llall.


Philipiaid 4:8 Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.


Ioan 10:10 Maeʼr lleidr yn dod gydaʼr bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnwʼn fywyd ar ei orau.


Comments

Popular posts from this blog

(Dis)Comfort and Joy

  In the summer, I was traveling to London on the train. It was a birthday treat and the idea of driving didn't spark much joy. As I normally travel by car, the train was an adventure - to start with! And then, like the Hobbits leaving the shire, it didn't quite go to plan! I'll leave the full story for another day but traveling by train the same day that Taylor Swift was in Wembley wasn't such a great idea. The trains were absolutely chockablock. We spent an hour stood toe to toe, head to armpits, as hundreds of people squashed into a train that was already full. Yet the passengers were laughing, chatting and sharing life stories as we trundled down the tracks. The discomfort, apparently, was worth it and we left the station wishing our new besties a wonderful time. If that was a Monday morning of commuters, I'm pretty sure the atmosphere wouldn't be quite so joy filled. What we're willing and even able to endure, can definitely be connected with the percei...

Parrot's assemble!

Take your position. Await on your perch. There's more of my Kingdom to be seen on the earth. Stop hiding your colours, Hand-painted with love. Come take your position; You're seated above. Pick up your mantel, It's been waiting a while. It's not prideful to wear What I give with a smile. Come closer and listen to all that I say, Then mimic, repeat - There's no time for delay. I've given you vision. Don't ignore what you see. You have my permission, To speak truth about me. Enough preening and squawking and practice - all safe! It's time to start flying, Take a big leap of faith. Isolation has hurt you, though I've been your rock, It's time to return; to be part of my flock Parrots assemble! Get ready for flight. It's up high, close beside me, That you'll win the good fight.

Orchestral Unity

You, drum, stop your banging, you're making a din The sound of your beat makes my head spin. And Harp! Stop bragging of your many strings,  Play fewer, think smaller when the viola begins. Double-bass and violin, sort yourselves out, We can't have a screech  along-side a deep shout. The fanciful flute with it's quick change of tempo,  Keep up everybody. Why are you so slow? Too gentle, too sharp! Come, get it right, Knock off sharp edges Or there'll be a fight  And now you're all moulded, stretched out or contained  Is this perfection? No! You've been maimed. Extremities matter; they make up the whole. Not one or t'other but all is the goal. The Composer has written a beautiful score, He chose each note.. Now it's time to restore  Remove expectations that cause you to strive. Stress isn't the purpose of being alive. Lock eyes with Conductor, he knows your part, He'll teach you to play. No performance, all heart.