Pa Mor Ddwfn?
Blynyddoedd yn ôl, bues yn nofio scuba tra ar ein gwyliau yn Corfu. Ar ôl mwynhau pnawn yn nofio gyda snorcl, fe benderfynom ni fentro ymhellach ac yn ddyfnach i’r môr gan y byddai hynny’n siwr o fod yn well. Ar ôl gwisgo pob dim a neidio i’r dwr, wrth i’r gweddill o’r grwp fynd yn syth lawr i wely’r môr, roeddwn i dal yn arnofio ar yr wyneb. Fe gês i fwy o bwysau ond wnaeth hynny ddim helpu. Rwyf wastad wedi hoffi nofio ond roedd yn amlwg yn fuan nad oes ots pa mor dda oedd yr offer ar y tu allan, doeddwn i ddim wedi fy arfogi ar y tu fewn! Fe wnes i ddal i nofio ar yr wyneb yn gwylio mewn syndod a rhyfeddod wrth i’r bobl hynny oedd yn ddewrach na fi fynd i lefydd na allwn i eu cyrraedd.
Effesiaid 3:18 “Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!”
Fel rhan o gorff Crist, mae rhai yn cael eu galw i ddangos dyfnder cariad Duw. Mae’r bobl hyn yn sensitif ac yn gofalu’n ddwfn. Maent yn teimlo poen eu cyd-ddyn fel tasai yn perthyn iddyn nhw. Maent yn fodlon bod yn agored am eu teimladau ac yn creu llefydd diogel i bobl eraill fod yn fregus. Maent yn gwrando nid yn unig ar beth sy’n cael ei ddweud ond ar y geiriau sydd heb eu ynganu yn y tawelwch. Er mwyn i eraill gael iachâd, maent yn gwrando ar straeon y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cuddio oddi wrthynt. Mae’r rhai sydd wedi eu donio yn gallu dangos trugaredd Duw mewn ffordd mor anhygoel a maent yn gwnselwyr naturiol sydd yn arfer cael pobl yn agor i fyny iddynt a rhannu eu pryderon a’u loes calon. Mae dysgu gosod ffiniau iach yn allweddol!
Mae costau eraill ynghlwm â’r dyfnder yma. Gall eu parodrwydd i deimlo gael ei weld fel gwendid pan y maent yn crio “ar y peth lleiaf”. Yn aml maent yn cael eu gwatwar am fod yn “or-sensitif” ac mae llygaid yn rowlio pan y maent yn rhannu yn “ddramatig”. Maent yn cael eu hosgoi, tydy pobl ddim yn gwrando arnynt a tydy nhw ddim yn cael y parch y maent yn ei haeddu a gall hyn arwain at rwystredigaeth, teimlad o fod yn ynysig a “hunan barch” isel.
Mewn amgylchedd eglwys, pan nad yw’r “rhai dwfn” yn cael eu clywed na’u gwerthfawrogi, mae peryg bod eglwys yn mynd yn rhy “effeithiol ac ymarferol”. Mae’n swnio’n iawn ond ai dyna sut y byddem yn disgrifio Iesu. Trugaredd a tosturi Duw a anfonodd Iesu i’r byd torredig yma. Treuliodd Iesu ei amser gyda puteiniaid, lladron a’r di-gartref. Rwy’n credu y byddai wedi gwrando ar lawer o’u straeon, yn rhannu yn eu galar, poen a cywilydd. Fe eisteddodd gyda nhw, eu caru nhw a wedyn, marw drostyn nhw. Ei dosturi arweiniodd Iesu at fwydo’r 5,000. Trugaredd y Tad a anfonodd Iesu i’r fynwent yn Gadara (Luc 8:26). Dyma engreifftiau sydd ddim yn ymarferol nac yn effeithiol.
I fynegi cariad Duw yn llawn, mae’n rhaid i’r eglwys wrando ar beth mae’r rhai sy’n teimlo yn clywed yn eu ymwneud agos “calon wrth galon” gyda’r byd. Dylid pwyso a mesur eu casgliadau pan yn gwneud penderfyniadau. Pan mae’r “rhai dwfn” yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hanrhydeddu, byddant yn dod â llawer o fewn-welediad.
Ar lefel bersonol, rwy’n gwybod nad wyf wedi fy nylunio ar gyfer byw fel hyn bob dydd ond, fel mae haearn yn hogi haearn, mae treulio amser gyda pobl gwerthfawr fel hyn wedi fy nysgu i gofleidio emosiynau cryf eraill (yn hytrach na rhedeg i ffwrdd a chuddio). O ganlyniad, mae angen iddyn nhw gael ffrindiau y gallant ymddiried ynddynt sy’n gwylio drostynt ac sy’n fodlon dweud “Ti ‘di mynd yn rhy ddwfn” pan mae’r tywyllwch yn ormod. Byddaf yn parhau i nofio yn agos i’r wyneb yn gwylio’r doniau dwfn yma ymysg pobl eraill gan synnu a rhyfeddu gan wybod ein bod i gyd yn rhan o’r un corff.
1 Corinthiaid 12:14-27 One Corff â Sawl Rhan
“Dydy'r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau. Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na! yddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A phetai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli?
Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e'n gweld yn dda. Petai pob rhan o'r corff yr un fath â'i gilydd, fyddai'r corff ddim yn bod! Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff.
Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!”
Yn hollol fel arall – mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos y lleiaf pwysig yn gwbl hanfodol! Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisgo i'w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus. Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy'n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi'r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch. Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am eu gilydd. Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd.
Chi gyda'ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o'r corff hwnnw.
Comments
Post a Comment