Skip to main content

Pa mor hir?




Pa mor hir?

Effesiaid 3:18 Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!

Wrth i mi feddwl am sut mae corff Crist yn dangos hyd cariad Duw, fe wnes I gael fy hun yn canu "He ain't Heavy, He's my Brother" gan Yr Hollies.

The road is long

With a many a winding turn

That leads us to who knows where

Who knows where

But I'm strong

Strong enough to carry him. He ain't heavy, he's my brother.

Mae yna bobl wirioneddol rhyfeddol sy’n dewis cychwyn ar lwybr dieithr i helpu i gario brawd mewn angen. Maent yn ildio eu bywydau i wneud bywyd rhywun arall yn well. Dyna weithred o gariad.

Yn yr Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Casper ten Boom a’i deulu yn helpu i guddio ac achub tua 800 o Iddwwon cyn iddynt gael eu cofnodi a’u harestio. Roedd Casper yn 84 mlwydd oed ar y pryd a bu fawr 9 diwrnod ar ôl cael ei garcharu. Anfonwyd ei ferched, Corrie a Betsie i Wersyll Ravensbrück. Mynnodd Betsie eu bod yn “ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu”. Dyna dystiolaeth o ffyddlondeb. Yn drist, bu Betsie fawr yn y gwersyll ond rhanodd ddoethineb arall gyda Corrie ychydig cyn hynny “Nid oes pydew yn rhy ddwfn nad yw Duw yn ddyfnach eto”. Deuddeg diwrnod wedyn, cafodd Corrie ei ryddhau. Flynyddoedd wedyn, fe faddeuodd i’r un y gwnaeth ei frad arwain iddynt gael ei garcharu ac un o’r gardiaid a fu yn arbennig o ffiaidd yn y gwersyll (fideo isod)

Bu William Wilberforce yn ymdrechu i orffen caethwasiaeth yn hwyr yn y 1700au. Cafodd ei watwar gan llawer o’i gyfoedion ond roedd ei argyhoeddiad na ellai ac nid dylai pobl fod yn eiddo i eraill ei orfodi i ddal ati. Doedd gan Wilberforce ddim i’w ennill ar lefel bersonol ond ymrwymodd ugain mlynedd o’i fywyd i geisio pasio‘r Ddeddf Caethwasiaeth.

Yn ogystal â’r straeon erchyll am y rhai a werthwyd i gaethwasiaeth a tynged gymaint o Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae llawer o bobl wedi cael eu gormesu a’u herlid oherwydd hil, crefydd neu ddosbarth drwy hanes Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd yr Eglwys Fore yn gwybod llawer amdano. Yn ei ail llythyr at y Corinthiaid (11:24) mae Paul yn rhestru peth o’r triniaeth a dderbyniodd am bregethu’r Efengyl. “Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip). Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd”. Mae hyn yn dal yn realiti mewn llawer o wledydd. Os fyddwch angen gwybod mwy, ewch i

 https://www.opendoorsusa.org/about-us/history/brother-andrews-story/)

Mae cofio stori Daniel yn yr Hen Destament yn fy ysbrydoli a fy herio. Er ei fod yn gaethwas, mae’n anrhydeddu ei feistr tra’n gwrthod gwneud unrhyw beth sy’n mynd yn groes i gyfraith Duw. Mae’n dangos dewrder ac unplygrwydd anghygoel. Mae ildio i’r rhai sydd mewn awdurdod, aros yn ddiymhongar a chadw agwedd weddigar a chariadus tuag at ei ormeswyr a’r un pryd, sefyll yn gadarn ar wirionedd Gair Duw sydd ddim ond yn bosib os yw eich llygaid wedi eu serio ar lle ydych yn mynd.

Pan oedd Iesu ar y groes, gofynodd i’w dad faddau i’r milwyr - “Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud”. Pregethodd Paul y Newyddion Da i geidwad y carchar. Fe ddioddefodd heb daro yn ôl. Cadwodd ei lygad ar y Gogoniant sydd i ddod. Mae’r rhai sy’n dal ati gan gredu bod yr un sy’n erlid werth ei achub, yn maddau y pethau na ellir ei maddau ac yn dangos cariad i’r rhai na ellir eu caru yn dangos yn ddewr pa mor hir yw cariad Duw.

Y grwp arall o bobl sydd yn engreifftiau o “gariad hir” yw rheini sydd yn addoli Duw yn ffyddlon er gwaethaf treialon real bywyd, boed hynny yn alar, salwch neu trawma – pobl fel Job yn ein dyddiau ni. Pan mae’r byd yn edrych ac yn cwestiynu a ydynt yn ei iawn bwyll, maent yn parhau i gredu yng nghariad a ffyddlondeb Duw.

Mae’n weddol hawdd darllen am y bobl hyn sy’n dangos hyd cariad Duw heb weld Duw yn y darlun o gwbl. Ond mae gymaint o’r bobl hyn sydd wedi dioddef wedi profi Gras na ellir ei esbonio, all ddim ond gael ei brofi pan yn wynebu erledigaeth ac anghyfiawnder. Pan mae presenoldeb Duw mor agos nes eich bod bron yn gallu ei deimlo yn arwain, cryfhau a tywys ar hyd llwybr cul fydd yn eich helpu i beidio ag edrych i’r dde na’r chwith ond cadw eich llygaid yn gadarn arno Ef, yr un na wneith byth eich anghofio na’ch gadael. Tydy hyn ddim yn ei wneud yn hawdd, ond mae yn ei wneud yn bosib.

Mathew 5:11 "Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi."

Felly, sut ddylai’r straeon hyn siapio gweddill y corff? Efallai nad ydym i gyd wedi ein galw i gerdded taith ffydd mor beryglus a felly, dewch i ni weddio dros ein brodyr a’n chwiorydd sydd yn gwneud hynny.

Yn ail, ystyriwch geiriau Hebreaid 12 " Mae tyrfa enfawr o'n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy'r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy'n ein dal ni'n ôl, yn arbennig y pechod sy'n denu'n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o'n blaenau i'w diwedd.."

O wybod am yr aberthau y mae eraill wedi eu gwneud i ddangos a rhannu cariad ac aberth Duw, byddwch yn ddewr a cymrwch camau ymlaen mewn ffydd, hyd yn oed os mai dim ond rhai bach ydyn nhw.

Yn olaf, dewch i ni fod yn ddigon dewr i rhannu fwy o’n bywydau gydag eraill. Fe fydd pobl eraill sydd angen clywed EICH stori, eich treialon a’ch buddugoliaethau. Byddwch yn ddigon dewr i wrando ar straeon wneith dorri eich calon. Galatiaid 6:2 " Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn.."


Mae cymaint o straeon eraill y byddwn wedi hoffi eu cynnwys ond byddai’n cymryd llyfr yn hytrach na blog i wneud cyfiawnder â pawb. Yn lle hynny, rwyf wedi cynnwys rhai dolenni er mwyn i chi glywed / darllen y straeon eich hunan.

Comments

Popular posts from this blog

(Dis)Comfort and Joy

  In the summer, I was traveling to London on the train. It was a birthday treat and the idea of driving didn't spark much joy. As I normally travel by car, the train was an adventure - to start with! And then, like the Hobbits leaving the shire, it didn't quite go to plan! I'll leave the full story for another day but traveling by train the same day that Taylor Swift was in Wembley wasn't such a great idea. The trains were absolutely chockablock. We spent an hour stood toe to toe, head to armpits, as hundreds of people squashed into a train that was already full. Yet the passengers were laughing, chatting and sharing life stories as we trundled down the tracks. The discomfort, apparently, was worth it and we left the station wishing our new besties a wonderful time. If that was a Monday morning of commuters, I'm pretty sure the atmosphere wouldn't be quite so joy filled. What we're willing and even able to endure, can definitely be connected with the percei...

Parrot's assemble!

Take your position. Await on your perch. There's more of my Kingdom to be seen on the earth. Stop hiding your colours, Hand-painted with love. Come take your position; You're seated above. Pick up your mantel, It's been waiting a while. It's not prideful to wear What I give with a smile. Come closer and listen to all that I say, Then mimic, repeat - There's no time for delay. I've given you vision. Don't ignore what you see. You have my permission, To speak truth about me. Enough preening and squawking and practice - all safe! It's time to start flying, Take a big leap of faith. Isolation has hurt you, though I've been your rock, It's time to return; to be part of my flock Parrots assemble! Get ready for flight. It's up high, close beside me, That you'll win the good fight.

Orchestral Unity

You, drum, stop your banging, you're making a din The sound of your beat makes my head spin. And Harp! Stop bragging of your many strings,  Play fewer, think smaller when the viola begins. Double-bass and violin, sort yourselves out, We can't have a screech  along-side a deep shout. The fanciful flute with it's quick change of tempo,  Keep up everybody. Why are you so slow? Too gentle, too sharp! Come, get it right, Knock off sharp edges Or there'll be a fight  And now you're all moulded, stretched out or contained  Is this perfection? No! You've been maimed. Extremities matter; they make up the whole. Not one or t'other but all is the goal. The Composer has written a beautiful score, He chose each note.. Now it's time to restore  Remove expectations that cause you to strive. Stress isn't the purpose of being alive. Lock eyes with Conductor, he knows your part, He'll teach you to play. No performance, all heart.