Y tro cyntaf i mi deithio ar awyren, roeddwn yn 17 mlwydd oed ac yn teithio yn ôl o Jersey yn ystod lleoliad gwaith naw mis yno. Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl ond, wrth i ni ddringo dros y cymylau, cefais fy nghario yn ôl i’r straeon Enid Blyton yr oeddwn wrth fy modd â nhw pan yn blentyn lle roedd tylwyth teg yn cerdded ar y cymylau! Roedd yn edrych fel y byddech yn gallu camu allan ac eistedd ar y cymylau gwlan cotwm a syllu dros yr ochr ar y byd oddi tano.
Pan ‘da chi yn uchel, ‘da chi’n medru gweld ymhellach nag os ydych ar y llawr ac mae gennych bersbectif cwbl wahanol ar bethau. Mae hyn yn wir am y rhai sydd wedi eu galw i ddangos uchder cariad Duw. Maent yn medru “gweld” peth o’r hyn sy’n dod. Mae rhai yn gweld trwy weledigaethau, breuddwydion a datguddiadau ac eraill yn cael teimlad na ellir ei esboinio. Bydd rhai yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ysbrydol, yn gwybod beth yw’r frwydr ysbrydol sydd ar y gweill ar y pryd.
Bu Daniel yn dehongli breuddwydion a gweledigaethau yn ogystal â chael gweledigaeth rhyfeddol ei hun. (Daniel 7:1-28) Roedd Eseeia fel pe tae’n byw o un gweledigaeth i’r llall. Daeth Ioan â Llyfr y Datguddiad i ni. Galwyd Noa a Ioan (Fedyddiwr) i baratoi ar gyfer rhywbeth yr oedd pobl eraill yn eu gwadio amdano. Yn 2 Corinthiaid 12:2 mae Paul yn sgwennu "Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio – dim ond Duw sy'n gwybod..."
Roedd geiriau proffwydol yn yr Hen Destament naill ai yn galw pobl yn ôl i’r cyfamod neu yn pwyntio ymlaen i ddyfodiad Iesu, yr Un a fyddai’n gwneud ein perthynas â’r Tad yn bosib. Roeddent yn pwyntio i’r Un a fyddai’n dod yn aberth dros ein pechodau er mwyn i ni allu sefyll, wedi ein maddau ac yn gyflawn, yn eofn ym mhresenoldeb Duw. Doedd hyn ddim er mwyn iddynt frolio am ba mor ysbrydol oedden nhw. Wedi’r cyfan, dim ond yn rhannol yr oeddent yn medru gweld beth yr oedd y Tad yn caniatau iddynt ei weld. Dyma bwrpas geiriau proffwydol o hyd heddiw. Pasio ymlaen gwahoddiad i berthynas dyfnach â Duw, yn datod a rhyddhau pobl i weld eu hunain trwy lygaid Duw, derbyn mwy o’i gariad gyda’r pwrpas hynny’n gorlifo i gyffwrdd eraill ac ymestyn ei deyrnas.
Oherwydd ei gariad Ef tuag atom, mae Ef am ein harwain ni ar hyd llwybrau da, i dywys yr eglwys yn y cyfeiriad iawn, i weld y Deyrnas yn tyfu, nid yn unig mewn niferoedd ond i dyfu mewn unigolion hefyd. Mae’r rhagrybudd hwn yn rhodd werthfawr i’r eglwys. Tra bod y bobl hyn yn gweld ymlaen ac efo strategaeth i lywio drwy rwystrau a ddaw sydd heb eu gweld eto, mae cael pobl eraill i gredu a deall beth sydd wedi ei ddweud yn dipyn o her! A bod yn deg, does dim rhyfedd. Byddai clywed rhywun yn dweud “Neithiwr, fe ges i fy nghipio i fyny i’r drydedd nef a siarad gyda Iesu, a newidiodd o fod yn llew i oen a wedyn yn ddyn oedd â llygaid yn llosgu fel tân” ddim yn rhan o sgwrs arferol dros goffi. Gall clywed straeon felly ein gadael yn teimlo’n iselradd yn ysbrydol, wedi ein drysu ac yn ofnus.
Heddiw, byddwn yn hoffi rhannu fy stori innau. Nid oherwydd mod i’n meddwl fy mod yn arbennig o bwysig ond mae’n anodd sgwennu yn wrthrychol am rhywbeth yr ydych wedi cael profiad personol ohonno. ‘Da chi’n gweld, dwi’n un o’r bobl rhyfedd hynny. ‘Dwi’ rioed wedi cael gweledigaeth (er bod gen i ffrindiau sydd wedi) ond rwy’n gwybod stwff!” Mae pobl wedi gofyn sut dwi’n gwybod dwi’n gwybod ac mae hynny’n gwestiwn da. Mae gen i berthynas gyda’r Tad, Iesu a’r Ysbryd Glân. Mae gen i hanes gyda nhw. Sgyrsiau dwi wedi eu cael, dagrau sydd wedi llifo, cyhuddiadau wedi eu taflu, sicrwydd sydd wedi ei roi. Fel y dywedodd Iesu yn Ioan 10:1-18, rwy’n nabod ei lais Ef. Yn y blynyddoedd cynnar o gamu allan mewn ffydd, pan oeddwn yn dysgu ymddiried mai llais Duw ydoedd ac nid fy nychymyg fy hun, (ac i fod yn onest, does gen i ddim llawer o hynny!) rwyf wedi copio strategaeth Gideon (Barnwyr 6:36-40) ac wedi gofyn am gadarnhad cyson. "Os yw hwn gennyt Ti, Dduw, gyrra gadarnhad i mi erbyn 3pm yfory” – pethau felly. Aeth hyn ymlaen am rai misoedd nes i mi glywed llais Duw yn siarad drwy’r Ysbryd ac yn dweud “Rwy’n gwybod dy fod yn nabod fy llais. Dim mwy o osod cnu.” Roedd yn ‘chydig o sioc ond fel mae pob rhiant yn gwybod, weithiau mae’n rhaid i ni dorri’r llinynau er mwyn i’n plant dyfu. Tydy hyn ddim yn golygu fy mod wedi stopio ceisio cadarnhad pan nad wyf yn siwr ond mae wedi dod â fi i fan lle rwy’n gwybod bod Duw yn ymddiried ynof i glywed a felly rhaid i mi wneud yr un peth.
Rwy’n cofio’r tro cyntaf i mi ddarllen trwy Eseciel. Cafodd fy ysbryd ei gynhyrfu a sylweddolais, os oeddwn am fod o ddifri’ am adael i Iesu fod yn Arglwydd ar fy mywyd, byddai’n rhaid i mi ildio fy urddas. (Os ‘da chi erioed wedi darllen llyfr Eseciel, gofynodd Duw iddo fyw mewn ffordd broffwydol a roedd coginio ei fwyd dros faw gwartheg yn un o’r pethau a wnaeth) Doedd hyn ddim yn fy llenwi gyda llawenydd ond derbyniais yr amodau – er weithiau yn gyndyn, rhaid i mi gyfaddef. Wedi’r cyfan, dw’i ddim am gael y label “rhyfedd”. Roedd Duw wedi rhoi negeseuon i mi rannu gyda pobl a roedd gen i ofn. Beth fyddai pobl yn meddwl amdana i? Beth os nad yw pobl yn hoffi be’ dwi’n dweud? Pam? Roedd rhai o’r bobl hyn yn ddieithriaid, eraill yn bobl yr oeddwn yn eu parchu a roeddwn eisiau cadw’r parch hynny. Dwi’ ddim yn meddwl fy mod wedi ei wneud yn dda o gwbl ond roeddwn yn ufudd, (rhan fwyaf o'r amser) er bod fy nghalon yn curo a fy ngliniau'n crynu. Mae’n dal yn rhywbeth nad wyf yn mwynhau ei wneud. Byddai’n llawer gwell gen i roi geiriau i bobl sydd wedi gofyn amdanynt! Oherwydd hyn, rwyf ‘mond yn rhannu gydag eraill pan mae’r Ysbryd Glân yn pwyso arnaf i wneud. Dwi ddim bob amser yn disgwyl i bobl ddeall be’ dwi’n ei rannu, efallai nad yw’n gwneud synnwyr i mi ond rwy’n gobeithio y byddant yn ei sgwennu lawr, ei bwyso a mesur a gweld os oes gan yr Ysbryd rhywbeth penodol. I ofyn cwestiynau amdano. Gofynnwch gwestiynau i mi; mae hynny’n aml yn arwain at fwy o ddatguddiad.
Yn gynnar iawn ar fy nhaith Cristnogol, dywedodd rhywun “Bydd yn ofalus nad wyt yn mynd yn rhy nefol yn dy ben i fod o unrhyw ddefnydd ar y ddaear” Fy ymateb greddfol oedd siawns y byddai’n well na’r ffordd arall rownd – “mor ddaearol fy meddwl na fyddwn o ddefnydd nefol” ond roedd clywed pethau felly’n gwneud i mi feddwl nad oedd lle i bobl fel fi yn yr eglwys. Roedd hyn yn torri fy nghalon. Ar rhyw wedd, byddwn yn ffitio yn well yn y byd “New Age” lle mae llawer o bobl ysbrydol sydd heb eu gwared yn cael eu cartref. Fe wnaeth hyn, ymysg pethau eraill, fy arwain at gyfnod lle roeddwn yn teimlo’n ynysig ac annigonol, yn methu deall pam bod Duw wedi dangos y pethau hyn i mi pan doedd gen i neb i rhannu gyda nhw. Roeddwn yn ysu i fod ymysg pobl oedd yn fy neall fel y medrwn ddysgu, tyfu a chael y cadarnhad yr oeddwn yn ysu amdano. Gofynnais i Dduw naill ai dynnu’r ddawn i ffwrdd fel y gallwn ffitio i fewn yn yr eglwys neu adael i mi fflio gydag eraill. Yn lle hynny, fe roddodd ddarlun i mi. Gwelais farcud yn fflio’n uchel gyda rhywun yn tynnu ar y llinyn yn ei helpu i aros i fyny, i gyrraedd yn uwch, yn cael ei dynnu yn ôl ac, wrth iddo ddisgyn, roedd yn hyfryd i’w wylio. Clywais Duw yn dweud mai fi oedd y barcud a bod y pethau yr oeddwn yn eu gweld fel rhwystrau wedi eu llunio i’m helpu i gyrraedd yn uwch. Tydy barcud sydd ddim yn cael ei ddal ddim yn rhydd, mae ar goll.
Tra cafodd y darlun hwn effaith fawr arnaf ar y pryd, dim ond nawr, flynyddoedd wedyn, yr wyf yn deal ei ystyr llawn. Mae cymeraid yn fwy pwysig i Dduw na chysur. Mae E’n gwybod pwy y mae wedi ein creu ni i fod ac am y tocio cariadus y mae’n rhai ei wneud er mwyn cyrraedd hynny. Roedd yn rhaid i mi dyfu heb gadarnhad fel na fyddai hynny’n feistr arnaf. Dysgu clywed arweiniad yr Ysbryd Glân mewn dyddiau tywyll fel na fyddwn yn cael fy ysgwyd gan beth oedd yn digwydd o fy nghwmpas. Rwyf wedi dysgu sut i ildio pan dwi isio gwrthryfela a sut i siarad pan rwyf isio rhedeg a cuddio. Mae Duw yn hedfan y barcud fel mae’r Ysbryd yn chwythu.
Eglwys, mae’n rhaid i ni ddechrau adeiladu sgyrsiau a perthnasau, fel nad yw barcudiaid yn hedfan ar eu pen eu hunain. ‘Da ni angen y rhai hynny sy’n fodlon gadael i’r Ysbryd Glân eu dysgu sut mae trîn barcud, sydd yn gwybod pryd i ollwng gafael a pryd i dynnu yn ôl, i helpu glanio y wybodaeth werthfawr y mae Duw yn paratoi ei gorff i’w weld. Does dim rhaid i ni ddechrau gyda llinynau hir. Dewch i ni adeiladu ymddiredaeth ac adeiladu hanes nes ein bod yn teimlo’n ddiogel i ollwng ‘chydig yn fwy ar y llinyn. Dysgu sut mae cadw’r tensiwn iach rhwng gollwng ac ildio.
“Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi'i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd 5 dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist” (1 Pedr 2, 4-5)

Comments
Post a Comment