Pa mor gyflawn? Yn ein ty ni, ‘da ni yn hoff iawn o gwis “Pa gymeriad wyt ti?” Mae’n wirion i fod yn onest ond mae’n gymaint o hwyl, yn ateb cwestiynau damcaniaethol lle ‘da chi’n dewis o bedwar ateb sydd yn hollol wahanol i beth fyddai’n atebion go iawn ni a, “Ta-ra”, mae’r canlyniadau yn dweud mai ti yw Gandalf/Aslan/Ron Weasley/Captain America (nid fy atebion i gyda llaw!) Wedyn, mae cwestiynau sy’n fwy difrifol “Pa grwp wyt ti?” profion fel “enneagrams” lle ‘da chi yn dysgu am eich cryfderau a’ch gwendidau. Efallai eich bod wedi gweld y blogiau hyn felly. “Pa ran o’r corff wyt ti?” Efallai y bydd y rhai dwfn yn debyg i’r galon neu organ mewnol. Maent yn gryf a phwysig ond mae ‘nhw angen eu gwarchod. Byddai’r rhai sy’n dal ati yn draed ac yn coesau. Maent yn cerdded y llwybr hir sydd wedi ei orfodi arnyn nhw neu yn un y maent wedi ei ddewis er mwyn nerthu a chryfhau brawd mewn angen. Y rhai sy’n dangos uchder cariad Duw yw’r llygaid a’r clustiau, yn clywed ac yn gwrando beth sy’n di...