Skip to main content

Pam Mor Llydan?



Pam Mor Llydan?

Cathod! Nid dyma fy holl anifeiliaid, wna i ddim dweud celwydd! A dweud y gwir, roeddwn yn eu hofni nhw ar un adeg (er na fyddwn byth wedi cyfaddef hynny) a byddwn yn trio cadw allan o’i ffordd os yn bosib. ‘Dw’i ddim yn siwr beth ydy e amdanyn nhw ond mae fel tase nhw yn gwybod rhyw gyfrinach nad ydynt yn fodlon ei rannu gyda pobl. Wedyn, un nos Iau, fe roedd yna bâr bach o lygaid yn syllu arna’ i trwy ddrysau’r patio. Agorais y drws i weld cath ddu hyfryd a oedd yn amlwg yn starfio ac yn ysu i gael dod i fewn. Y funud y cafodd y drws ei agor, cefais fy nhrawsffurfio a roeddwn mewn cariad, er mawr llawenydd fy merched a oedd yn ysu i ni gael anifail anwes. Roedd yn hynod o ddifyr sut y gallodd un foment newid blynyddoedd o ragfarn. Roedd yn fy atgoffa o pam wnes i gyfarfod Iesu a drodd fy myd wyneb i wared.

I mi, does dim byd yn cyfleu lled cariad Duw yn fwy na’r darlun o Iesu, gyda’i freichaiu ar lêd, yn dioddef ar y groes. Fe wnaeth e’n bosib i symud ein pechodau mor bell ag yw’r dwyrain o’r gorllewin a hyd yn oed yn ei ddioddefaint, cynigiodd eiriau o gysur i’r dyn oedd wrth ei ochr (Luc 23:41-43) Mae’r rhai sydd â chalon i ddangos y cariad llydan hwn, yn gweld y colledig sy’n byw ar gyrion “cymdeithas barchus”, y digartref, yr amddifad, y torredig y rhai sydd ddim yn cael eu caru. Maent yn angerddol ac yn estyn allan a rhannu’r newyddion da ein bod i gyd wedi ein caru a bod yr Un wnaeth ein creu ni wedi gosod gwerth arnom ni. Geirau’r comisiwn “ewch” yw rhai o’r geiriau pwysicaf iddyn nhw. Maent ar frys am beth y maent am wneud a maent yn gweld unrhyw funud sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i dyfu’r Deyrnas yn wastraff. Mae’r eglwys yn le i ail-lenwi’r batri a denu pobl newydd i helpu i roi eu gweledigaeth i gyrraedd rhai sydd heb eu hachub eto ar waith.

Mae yna gymaint o elusennau yn y DG a drwy’r byd wedi eu sefydlu gan y rhai “llydan”. Operation Christmas Child, World Vision, Tearfund, A21, y Samariaid a gymaint mwy. Maent yn mynd allan i gwrdd â’r byd lle mae e, reit yng nghanol yr anrhefn, Maent yn bobl tosturiol sydd wedi eu gyrru.

Achos y dynfa fewnol yma, mae yna densiwn naturiol rhwng y bobl hyn sydd â ffocws llydan ac agweddau bugeiliol eraill yn yr eglwys. Gall y rhai llydan deimlo’n rhwystredig os yw eglwys yn mynd yn rhy gyfforddus yn y seddau, yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y rhai sydd wedi eu hachub yn barod. Mae angen i’r eglwys gael ei herio achos fe all ddatblygu yn Glwb Dydd Sul cyfforddus. Pan gafodd Sam y gath ei sbaddu, dywedodd y milfeddyg ei fod yn weddol gyffredin i’r helwyr mwyaf brwd fynd yn ddiog ac eisted yn y ty, yn disgwyl cael eu bwydo a mynd yn dew. Siaradodd Duw â mi a dweud mai dyna beth sydd wedi digwydd ar hyd yr oesoedd i’w eglwys. Fe wna i fy ngorau i drio esbonio’r datguddiad a gefais y diwrnod hynny:-

Yn hanesyddol, mae rhai grwpiau efengylaidd wedi camddeall eu comisiwn. Tra’n llawn brwdfrydedd, yn hytrach na rhannu’r newyddion da bod cariad, gras a trugaredd Duw wedi ei wneud yn bosib i bawb gael eu gwahodd i fewn i’w deulu fel mab neu ferch, maent wedi dewis partneru gydag ofn, gan ddefnyddio bygythiad “Tân a Brwmstan” neu rywbeth tebyg, i geisio dychryn pobl allan o uffern. Pan mae ofn yn cael ei osod fel sylfaen ar gyfer ffydd ddylai gael ei adeiladu ar gariad, fydd y ty byth yn cyflawni cynlluniau’r pensaer. Mewn ymdrech i bellhau o hyn o hyn a pheidio â chael eu cyhuddo o waldio efo’r Beibl, mae llawer o enwadau wedi mynd gymaint i’r cyfeiriad arall eu bod, yn ddiarwybod, wedi sbaddu eu gweinidogaeth. Pan nad yw estyn allan (atgenhedlu) yn flaenoriaeth, rydym yn troi yn gathod tew sy’n cysgu tan y pryd bwyd nesaf. Rwy’n meddwl bod hwn yn ddarlun teg a dychrynllyd, nid yn unig o eglwysi sydd sydd yn colli’r rhai llydan yn eu plith ond hefyd fel unigolion pan ‘da ni yn mynd yn rhy fodlon yn ein iachawdwriaeth ein hunain. Wrth gwrs, ni all Llew Jwda fyth gael ei ysbaddu!

Ar y pegwn arall, pan mai unig ffocws yr eglwys yw estyn allan, mae’r rhai sydd yn cael eu “canfod” yn medru teimlo eu bod yn cael eu defnyddio a’u camddefnyddio, yn rhywun i lenwi rhestr swyddi wedi iddynt gael eu hachub. Mae ail ran y comisiwn am “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw …….. yn enw’r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân….” Tra bod gweithred symbolaidd Bedydd yn ddatganiad pwysig o ffydd, rwy’n credu bod mwy i’r adnod na hynny. Yn y cyd-destun Beiblaidd Iddewig, roedd enwau yn fwy na rhywbeth i alw rhywun ond roeddent yn ddisgrifiad o gymeriad rhywun. Ystyr gwreiddiol bedydd yw bod rhywun yn cael eu trochi neu eu llethu. Mae’r adnod yn galw ar drochi’r disgyblion yn holl nodweddion cymeriad Dduw yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân nes iddynt fabwysiadu’r un nodweddion. Nid rhannu'r newyddion da am iachawdwriaeth â phobl yw unig genhadaeth Iesu ar gyfer ei eglwys. Mae am i ni gael ein hachub a’n gwneud yn gyflawn. I wneud hyn, mae’n rhaid i’r corff fod yn iach a chael gweinidogaethau mewnol i ofalu am, dysgu ac arfogi’r bobl y mae Duw wedi ei roi yn ein gofal. Fedrwn ni ddim fforddio bod naill ai yn eglwys estyn allan neu’n un sy’n tueddu at ofal bugeilio. Mae’n rhaid i ni ddeall, anrhydeddu a cofleidio y galwadau gwahanol y mae pawb yn dod â nhw.

Pan mae rhywun yn ein cofleidio go iawn mae’n brofiad sy’n ein hiachau. Nid rhyw gyffyrddiad anghyfforddus ar yr ysgwydd neu ysgwyd llaw ond cwtsh hir sy’n gwneud i chi deimlo’n ddiogel, wedi ein caru a’n derbyn. Fedr briechiau ddim wneud hynny eu hunain. Mae’n rhaid iddynt fod ynghlwm â chorff. Mae’n rhaid croesawu pobl i gofleidiad yr eglwys.

Comments

Popular posts from this blog

Psalm 22 - Good Friday's Soundtrack

 Our house feels like living inside a musical. Not necessarily in the song quality, but definitely in quantity. It’s hard to say "Hello," "You're welcome," or "We're halfway there" without someone breaking into song. And it’s not just music. Our days are packed with lines from films, adverts, and TV shows. “Coffee, coffee, boy, do I need coffee!” “Bacon is good for me!” I’m not sure it’s entirely normal (which is why I try to restrain myself in public), but it’s definitely normal in our house. One phrase triggers the whole thing—someone says a single line, and the rest of the song or scene starts playing in everyone’s heads. Just like that, an everyday comment becomes a full production. And when Jesus was on the cross, he did just the same. He said: “My God, my God, why have you forsaken me?” To the Roman soldiers crucifying him, it probably sounded like a dying man's cry. To someone reading the Bible today, it can sound as if Jesus believed ...

Parrot's assemble!

Take your position. Await on your perch. There's more of my Kingdom to be seen on the earth. Stop hiding your colours, Hand-painted with love. Come take your position; You're seated above. Pick up your mantel, It's been waiting a while. It's not prideful to wear What I give with a smile. Come closer and listen to all that I say, Then mimic, repeat - There's no time for delay. I've given you vision. Don't ignore what you see. You have my permission, To speak truth about me. Enough preening and squawking and practice - all safe! It's time to start flying, Take a big leap of faith. Isolation has hurt you, though I've been your rock, It's time to return; to be part of my flock Parrots assemble! Get ready for flight. It's up high, close beside me, That you'll win the good fight.

Little Compromises 1/3

Having been married for the past 25 years, and being a mum to two daughters, I've learnt a little about the importance of compromise. The daily compromises we make like having a Chinese takeaway instead of the Indian you fancy and watching James Bond, Dora the explorer or a rom-com for the 20th time just to spend time cuddling on the sofa with your loved ones, all build strong bonds. Knowing someone loves you enough to lay down their desires so yours can be fulfilled is precious. Of course there are the not so fun filled compromises too! The debates and on going negotiations of what time is bedtime or maybe how many hours your partner is spending at work/the gym/ the pub. In healthy relationships, both parties share their point of view so the other can take it into consideration, weigh it up and see if they're willing to meet somewhere in the middle. We see Moses had ths kind of relationship with God. In Exodus 4:10-18 God chose Moses to speak to Pharaoh, Moses wanted Him to ch...