Skip to main content

Pa mor gyflawn?



Pa mor gyflawn?

Yn ein ty ni, ‘da ni yn hoff iawn o gwis “Pa gymeriad wyt ti?” Mae’n wirion i fod yn onest ond mae’n gymaint o hwyl, yn ateb cwestiynau damcaniaethol lle ‘da chi’n dewis o bedwar ateb sydd yn hollol wahanol i beth fyddai’n atebion go iawn ni a, “Ta-ra”, mae’r canlyniadau yn dweud mai ti yw Gandalf/Aslan/Ron Weasley/Captain America (nid fy atebion i gyda llaw!) Wedyn, mae cwestiynau sy’n fwy difrifol “Pa grwp wyt ti?” profion fel “enneagrams” lle ‘da chi yn dysgu am eich cryfderau a’ch gwendidau.

Efallai eich bod wedi gweld y blogiau hyn felly. “Pa ran o’r corff wyt ti?” Efallai y bydd y rhai dwfn yn debyg i’r galon neu organ mewnol. Maent yn gryf a phwysig ond mae ‘nhw angen eu gwarchod. Byddai’r rhai sy’n dal ati yn draed ac yn coesau. Maent yn cerdded y llwybr hir sydd wedi ei orfodi arnyn nhw neu yn un y maent wedi ei ddewis er mwyn nerthu a chryfhau brawd mewn angen. Y rhai sy’n dangos uchder cariad Duw yw’r llygaid a’r clustiau, yn clywed ac yn gwrando beth sy’n digwydd yn y nefoedd. Y rhai sy’n dangos lled cariad Duw, yw breichiau a dwylo Crist yn estyn allan at y rhai sydd wedi eu heithrio ac sydd mewn angen. Ond er mwyn bod yn gorff sy’n gweithio, mae gwir angen …. wel … corff. Ac mae’n gorff mor hyfryd. Mae wedi bod ym mhob stori dw’i wedi ei rannu. Y corff yw beth y mae’r mwyafrif o bobl yn ei weld. Mae’n gwasanaethu, croesawu, annog, yn cofio dyddiau penblwydd, yn dal y rhai dwfn sydd angen lle ddiogel, yn gweddio dros y rhai hir ac yn edrych ar ôl y rhai coll sy’n cael eu dwyn i fewn gan y rhai llydan.

Mae’r corff yn brysur mewn gwaith plant, pwyllgorau codi arian, y gegin gawl, yn glanhau toiledau ac yn golchi llestri. Mae’r corff yn paratoi lle ac amser i eistedd ym mhresenoldeb Duw, i weddio, addoli a torri bara gyda’n gilydd. Dyma ganol ein cymuned, yn dysgu, cysuro a meithrin.

Ond mae corff cyfan Crist llawer yn fwy cymhleth na pump rhan o gorff. Mae pob un ohonom ni yn dangos agwedd a nodwedd gwahanol o’i gariad. Fydd byth “ti arall”. ‘Da ni heb ein creu i ffitio’n daclus i focsus y mae dyn wedi eu gwneud neu i ganlyniad rhyw brawf personoliaeth. Ac, er mwyn i’r Eglwys gyflawni ei bwrpas, mae’n rhaid i bob person fod yn rhydd i fod yr hyn y cawsant eu creu i fod.

Y dyddiau hyn, mae paratoi i briodi yn llawn o drefniadau diwrnod priodas (siopio am ddillad, blodau, trefniadau eistedd) ond tydy e ddim wedi bod felly erioed. O’r blaen, roedd merched yn cael eu “paratoi” o’u plentyndod. Roedd merched ifanc yn cael eu gwasgu i fewn i staes er mwyn cael canol tenau, rhwymo ei traed i atal tyfiant ac mae llawer yn dal i ddioddef yr arferiad erchyll o anafu cenhedlol benywaidd. Mae’r cyfan i’w gwneud yn deniadol yn ddiwylliannol gan obeithio y byddant yn fwy tebygol o briodi. Mae’r arferion hyn yn cael eu gwneud neu eu goruchwylio gan famau. Mamau sy’n caru eu merched. Rhai sydd yn gofalu ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw. Rhai sydd yn fodlon i’w merched fynd trwy boen a trallod er mwyn cydymffurfio â beth sy’n edrych yn “dderbyniol” ‘Da ni i gyd am i’n plant gael eu derbyn a nid eu gwrthod ond tydy cael eich derbyn fel rhywun sydd ddim yn chi eich hun ddim yn dderbyn go iawn. Weithiau, dim ond trwy gamu yn ôl ac edrych o berspectif gwahanol, y medrwn ni weld bod niwed yn cael ei achosi.

Mae yna rhannau o gorff Crist, ei Briodferch, yr Eglwys, sydd wedi cael eu caethiwo yn rhy hir er mwyn bod yn fwy dderbyniol yn ddiwylliannol, ddim yn tramgwyddo trwy fod yn wahanol. Ond nid dyma beth mae’r Priodfab ei eisiau. Fe roddodd ei fywyd i lawr er mwyn iddi fod yn rhydd, ddim i ffitio i fewn efo’r byd ond i gael ei thrawsffurfio i gynrychioli Teyrnas Dduw. Dwi yn gofyn a fyddai’r Iesu ‘da ni yn ei weld yn y Beibl yn cael bod yn ef ei hun yn ein Eglwysi neu a fyddem ni yn trio ffrwyno a dofi’r Llew?

Rwyf innau fy hun wedi treulio gormod o flynyddoedd wedi fy nal mewn trafodaeth fewnol gyda fi fy hun. Yn edrych ar y Beibl i ddilyn beth mae Iesu yn gofyn gennym, yn gwybod beth rwyf wedi fy ngalw i fod, ac eto yn trio gwasgu fy hun i fewn i rhyw siap unffurf o gydymffurfio â’r diwylliant.

Galatiaid 5:1 “Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto.”

Rwyf wedi clywed Duw yn gorchymyn sawl Pharo yn ein hoes ni, “cymharu”, “cydymffurfio â diwylliant” ac “ofni barn dyn”, i adael i’w bobl fynd yn rhydd. Wrth i ni sefyll yn y diffeithwch hwn, rwy’n teimlo tynfa rhwng camu allan i wlad yr addewid ‘da ni ddim yn ei nabod a heb ei weld neu droi yn ôl i ddiogelwch hen a chyfarwydd, fel yr Israeliaid, wedi eu hachub o gaethwasiaeth, isio rhedeg yn ôl i gaethiwed yr Aifft yn hytrach na cherdded mewn ffydd at “Yr Wyf”. Bydd Duw yn gweld ei bobl yn cael eu rhyddhau. Dewch i ni fod yn ddigon dewr i ddweud “Ie ac Amen” a gwneud i hyn ddigwydd yn ein cenhedlaeth ni.


Os yw hyn wedi siarad gyda chi, byddwn yn eich annog i dreulio amser gyda Duw i siarad amdano. Gofynnwch Iddo ddangos llefydd lle rydych yn gaeth a gadewch Iddo eich helpu i’w symud nhw.

Os ‘da chi ddim yn gwybod lle i ddechrau, efallai y gall y weddi yma eich helpu. Newidiwch e i’w wneud yn fwy personol.

Dduw Dad, diolch mai “yn ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed”, yn dy ddelw Di, er dy fwyn Di. Rwy’n gofyn i Ti ddangos i mi’r ffyrdd lle rwyf wedi partneru efo barn dyn, cydymffurfio â diwylliant neu gymharu (efallai y gallwch wneud rhain fesul un)

Rwy’n edifarhau ac yn gofyn am faddeuant.

Oes yna unrhyw un rwyt Ti am i mi faddau iddyn nhw am fy rhwymo yn ysbrydol?

Rwy’n maddau i .... am .....

Oes yna unrhyw gelwydd rwyf wedi ei gredu achos hyn? (Gwrandewch ar beth mae’r Ysbryd Glân yn dweud)

Beth yw’r gwirionedd Ysbryd Glân?

Gwnewch nodyn o unrhyw wirionedd ‘da chi’n ei glywed a meddyliwch amdano. Pwyswch e' yn erbyn be 'da chi'n clywed am Iesu yn yr Efengyl. Ydy e yn gyson gyda'r hyn y mae E'n dysgu? (Dywedodd Iesu os 'da chi yn ei 'nabod Ef, da chi yn 'nabod y Tad. Fydd dim byd sy'n dod gan Dduw yn mynd yn groes i eiriau a gweithredoedd Iesu) Gofynnwch fwy o gwestiynau ac ail-adroddwch y weddi fel mae pethau’n cael eu datguddio i chi. Siaradwch gyda rhywun sy'n aeddfed yn eu ffydd i rannu beth 'da chi wedi ei glywed a cerddwch yn eich rhyddid newydd yn ddoeth.


A rwy’n gweddio y byddwch yn cael eich gwreiddio a’ch sefydlu mewn cariad, y byddwch yn cael pwer, ynghyd â phobl sanctaidd Dduw, er mwyn sylweddoli pa mor eang, hir, dwfn ac uchel yw cariad Crist. Amen.

Comments

Popular posts from this blog

Parrot's assemble!

Take your position. Await on your perch. There's more of my Kingdom to be seen on the earth. Stop hiding your colours, Hand-painted with love. Come take your position; You're seated above. Pick up your mantel, It's been waiting a while. It's not prideful to wear What I give with a smile. Come closer and listen to all that I say, Then mimic, repeat - There's no time for delay. I've given you vision. Don't ignore what you see. You have my permission, To speak truth about me. Enough preening and squawking and practice - all safe! It's time to start flying, Take a big leap of faith. Isolation has hurt you, though I've been your rock, It's time to return; to be part of my flock Parrots assemble! Get ready for flight. It's up high, close beside me, That you'll win the good fight.

Orchestral Unity

You, drum, stop your banging, you're making a din The sound of your beat makes my head spin. And Harp! Stop bragging of your many strings,  Play fewer, think smaller when the viola begins. Double-bass and violin, sort yourselves out, We can't have a screech  along-side a deep shout. The fanciful flute with it's quick change of tempo,  Keep up everybody. Why are you so slow? Too gentle, too sharp! Come, get it right, Knock off sharp edges Or there'll be a fight  And now you're all moulded, stretched out or contained  Is this perfection? No! You've been maimed. Extremities matter; they make up the whole. Not one or t'other but all is the goal. The Composer has written a beautiful score, He chose each note.. Now it's time to restore  Remove expectations that cause you to strive. Stress isn't the purpose of being alive. Lock eyes with Conductor, he knows your part, He'll teach you to play. No performance, all heart.

Little Compromises 1/3

Having been married for the past 25 years, and being a mum to two daughters, I've learnt a little about the importance of compromise. The daily compromises we make like having a Chinese takeaway instead of the Indian you fancy and watching James Bond, Dora the explorer or a rom-com for the 20th time just to spend time cuddling on the sofa with your loved ones, all build strong bonds. Knowing someone loves you enough to lay down their desires so yours can be fulfilled is precious. Of course there are the not so fun filled compromises too! The debates and on going negotiations of what time is bedtime or maybe how many hours your partner is spending at work/the gym/ the pub. In healthy relationships, both parties share their point of view so the other can take it into consideration, weigh it up and see if they're willing to meet somewhere in the middle. We see Moses had ths kind of relationship with God. In Exodus 4:10-18 God chose Moses to speak to Pharaoh, Moses wanted Him to ch...