1
Eseia 60 1 “Cod, llewyrcha,
oherwydd daeth dy oleuni;
llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
2Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,
a'r fagddu dros y bobloedd,
bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti,
a gwelir ei ogoniant arnat.
3Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni,
a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.
Ar ddechrau'r flwyddyn nes i weld rhywbeth yn yr ysbryd oedd Duw 'di gofyn i mi i rhannu fel hyn. Welais i yr eglwys yn Nghymru o dan blanced ac "cyfforddus" oedd enw'r flanced yma. Dwedodd Ysbryd yr Arglwydd hyn "Cod fy Eglwys i. Ysgwyd I ffwrdd dy flanced cyfforddus. Y blanced sy'n cadw ti yn dawel a chysglyd. Cod ar dy traed. Cod ac stretchio dy gyhyrau. Nid yn erbyn y llywodraeth neu phobl ond yn erbyn y gelyn yn y byd ysbrydol, sy'n cwffio yn erbyn y gynhedlaeth hon: tlodi, addiction, diobaith, cymhariaeth iselder.
Yn ddiweddar mae tafarnau wedi bod ar gau, oherwydd rheolau a salwch ond wyti'n cofio pryd wnaethynt gau oherwydd grym gweddïau fy mhobl i? Cod a chofio y nerth ac awdurdod ysbrydol dwi wedi rhoi i ti. Cod a sycha'r apathy allan o dy llygaid. Edrycha o gwmpas trwy fy llygadau i. Cod a gadael i mi dy baratoi di i ddangos fy nghariad, nerth ac gogoniant fel dwi isho. Ildia dy enaid, corff a meddwl i{ mi. Cod a llywercha.
Comments
Post a Comment