Pa mor hir? Effesiaid 3:18 Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! Wrth i mi feddwl am sut mae corff Crist yn dangos hyd cariad Duw, fe wnes I gael fy hun yn canu "He ain't Heavy, He's my Brother" gan Yr Hollies. The road is long With a many a winding turn That leads us to who knows where Who knows where But I'm strong Strong enough to carry him. He ain't heavy, he's my brother. Mae yna bobl wirioneddol rhyfeddol sy’n dewis cychwyn ar lwybr dieithr i helpu i gario brawd mewn angen. Maent yn ildio eu bywydau i wneud bywyd rhywun arall yn well. Dyna weithred o gariad. Yn yr Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Casper ten Boom a’i deulu yn helpu i guddio ac achub tua 800 o Iddwwon cyn iddynt gael eu cofnodi a’u harestio. Roedd Casper yn 84 mlwydd oed ar y pryd a bu fawr 9 diwrnod ar ôl cael ei garcharu. Anfonwyd ei ferched, Corrie a Betsie...